
Hysbysiad Casglu: Myfyrwyr Cyhoeddwyd 24 Ebrill 2012
Hysbysiad Casglu: Staff Cyhoeddwyd 24 Ebrill 2012
Hysbysiad Casglu: Cyrchfannau Myfyrwyr sy'n Gadael AU (CMGAU) Cyhoeddwyd 3 Tachwedd 2009
AROLYGON O FYFYRWYR AC YMADAWYR
Gall eich manylion cysylltu gael eu trosglwyddo i gontractwyr arolygu sy'n cynnal yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ac arolygon o gyllid myfyrwyr, ar ran y cyrff a restrir isod o dan Ddiben 1. Bydd y cyrff hyn a'u contractwyr yn defnyddio eich manylion at y diben hwn yn unig, ac yn eu dileu wedyn.
Oddeutu chwe mis ar ôl i chi raddio, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn i chi lenwi holiadur yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU/HESA), ‘Cyrchfannau Myfyrwyr sy'n Gadael Addysg Uwch'. Ni fyddwn yn rhoi eich manylion cysylltu i'r AYAU. Mae'n bosibl hefyd y cewch eich cynnwys mewn arolwg arhydol o ymadawyr ychydig o flynyddoedd ar ôl i chi raddio. Os felly, byddwn yn trosglwyddo eich manylion cysylltu i'r corff sydd wedi cael y contract i wneud yr arolwg hwnnw. Bydd y corff hwnnw yn defnyddio eich manylion at y diben hwnnw yn unig, ac yn eu dileu wedyn.
Os nad ydych am gymryd rhan yn yr arolygon hyn, byddwch cystal â rhoi gwybod i ni.
COFNOD MYFYRWYR YR AYAU
Byddwn yn anfon peth o'r wybodaeth a gadwn amdanoch i'r AYAU. Mae'r AYAU yn casglu data ar gyfer, ac yn gyfrifol am, y gronfa ddata lle y mae eich cofnod myfyriwr AYAU yn cael ei storio. Defnyddir y wybodaeth hon yn uniongyrchol gan yr AYAU, er enghraifft, i gyhoeddi ystadegau am fyfyrwyr addysg uwch. Bydd yr AYAU hefyd yn prosesu'r wybodaeth yn y gronfa ddata ar ran cyrff eraill. Rhaid i bob defnydd a wneir o Gofnod Myfyrwyr yr AYAU gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998.
Elusen gofrestredig yw'r AYAU ac mae'n gweithredu ar sail nid-er-elw. Gall godi ar gyrff eraill y mae'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer neu'n rhoi data iddynt er mwyn talu am ei chostau.
Data personol sensitif
Os rhoddwch wybodaeth i ni am eich statws anabledd, ethnigedd, gogwydd rhywiol, ailbeniad rhywedd, beichiogrwydd/mamolaeth neu grefydd bydd yn cael ei chynnwys yng Nghofnod Myfyrwyr yr AYAU i'n helpu i fonitro cyfle cyfartal a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon yn unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb. Ni ddefnyddir y meysydd hyn gan yr AYAU mewn unrhyw ffordd a allai gael ei defnyddio i'ch adnabod chi.
Defnyddir Cofnod Myfyrwyr yr AYAU at bedwar diben cyffredinol:
Diben 1 - Swyddogaethau cyhoeddus
Ystadegau a data addysgol
Defnyddir Cofnod Myfyrwyr yr AYAU gan rai cyrff i'w helpu i gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas ag addysg yn y DU. Y cyrff hyn yw rheolyddion data yn gyffredin Cofnod Myfyrwyr yr AYAU o dan delerau'r Ddeddf Gwarchod Data. Maent hwy'n cynnwys:
ac unrhyw gyrff sy'n eu holynu. Gall y cyrff hyn gysylltu gwybodaeth o Gofnod Myfyrwyr yr AYAU â gwybodaeth arall a gadwant. Er enghraifft, bydd yr Adran Addysg a'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn cysylltu Cofnod Myfyrwyr yr AYAU â'r Gronfa Ddata Disgyblion Genedlaethol. Defnyddir y data cysylltiedig at bwrpas deall addysg uwch a'i heffeithiau.
Defnydd arall
Gall Cofnod Myfyrwyr yr AYAU hefyd gael ei ddefnyddio gan rai cyrff i'w helpu i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus nad ydynt yn gysylltiedig ag addysg. Gall defnydd o'r fath gynnwys y canlynol:
Diben 2 - Defnydd gweinyddol
Cymwysterau blaenorol - Os ydych wedi'ch cofrestru mewn sefydliad yn Lloegr: Mae'n bosibl y byddwn ni a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (CCAULl/HEFCE) yn cymharu eich data â chofnodion addysgol o flynyddoedd blaenorol er mwyn helpu i bennu lefelau eich cymwysterau presennol. Gall hyn yn ei dro effeithio ar y ffioedd y mae gofyn i chi eu talu neu ar a oes lle ar gael i chi astudio gyda ni.
Myfyrwyr nad ydynt yn byw yn yr UE - Os ydych chi'n fyfyriwr nad yw'n byw yn yr UE gall awdurdodau mewnfudo'r Deyrnas Unedig ofyn i ni ddarparu data amdanoch chi. Gall yr awdurdodau hyn brosesu'ch data personol er mwyn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas ag ymfudo.
Ni ddefnyddir eich cofnod AYAU i wneud penderfyniadau amdanoch chi ac eithrio at y defnydd gweinyddol a amlinellir o dan Ddiben 2.
Diben 3 - Cyhoeddiadau'r AYAU
Defnyddir Cofnod Myfyrwyr yr AYAU gan yr AYAU i gynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol. Mae'r rhain yn cynnwys rhai cyhoeddiadau Ystadegau Cenedlaethol a gwasanaethau gwybodaeth rheoli ar-lein. Bydd yr AYAU yn cymryd camau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o'r data a brosesir ganddi at Ddiben 3.
Diben 4 - Cyfle cyfartal, ymchwil, newyddiaduraeth a phrosesu arall lle y mae diddordeb cyfreithlon
Gall yr AYAU a'r rheolyddion data eraill sydd wedi'u rhestru o dan Ddiben 1 gyflenwi data i drydydd partïon hefyd lle y mae gwneud hynny o ddiddordeb cyfreithlon i'r cyhoedd. Rhai enghreifftiau o ddefnyddio data at y diben hwn yw:
Mae defnyddwyr y gellir cyflenwi data iddynt at Ddiben 4 yn cynnwys:
Mae data a gyflenwir gan yr AYAU i drydydd partïon yn cael eu darparu o dan gontractau sy'n mynnu na fydd unigolion yn cael eu hadnabod o'r data a gyflenwir. Gellir cael copi o gytundeb safonol yr AYAU ar gyfer cyflenwi data yn http://www.hesa.ac.uk/dox/informationprovision/IP5_Terms_and_conditions_V1_7.pdf
COFNOD HYFFORDDIANT CYCHWYNNOL ATHRAWON ("HCA") YR AYAU
Os ydych chi'n dilyn cwrs HCA mewn sefydliad yn Lloegr, bydd yr AYAU yn casglu data amdanoch chi ac yn rhoi'r data hyn i'r Asiantaeth Addysgu.
Rheolydd data o dan delerau Deddf Gwarchod Data 1998 yw'r Asiantaeth Addysgu a bydd yn prosesu'ch data personol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas â hyfforddi athrawon yn y DU.
HYSBYSIAD CASGLU MYFYRWYR YR AYAU
Caiff Hysbysiad Casglu Myfyrwyr yr AYAU ei adolygu'n rheolaidd. Gellir dod o hyd i'r fersiwn diweddaraf yn http://www.hesa.ac.uk/content/view/150/183/. Gall mân ddiweddariadau i'r Hysbysiad Casglu Myfyrwyr (gan gynnwys newidiadau i enwau cyrff ac egluro dibenion a nodwyd ynghynt) gael eu gwneud ar unrhyw adeg. Ni fydd diweddariadau mawr (megis diben neu ddefnydd gweinyddol newydd) yn cael eu gwneud yn amlach nag unwaith y flwyddyn.
EICH HAWLIAU
O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gennych hawl i weld y data a gedwir amdanoch gan yr AYAU. Rhaid i chi dalu ffi fach am hyn. I gael gwybodaeth bellach am Gofnod Myfyrwyr yr AYAU, ewch i www.hesa.ac.uk/dataprot neu e-bostiwch data.protection@hesa.ac.uk.
Cofnod Staff yr AYAU
Bob blwyddyn, byddwn yn anfon peth o'r wybodaeth a gadwn amdanoch i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU/HESA). Y wybodaeth hon yw eich Cofnod Staff AYAU. Nid yw'n cynnwys eich enw na'ch manylion cysylltu.
Ni fydd eich Cofnod Staff AYAU yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi.
Mae'r AYAU yn casglu data ar gyfer, ac yn gyfrifol am, y gronfa ddata lle y mae eich Cofnod Staff AYAU yn cael ei storio. Defnyddir y wybodaeth hon yn uniongyrchol gan yr AYAU, er enghraifft, i gyhoeddi ystadegau am staff addysg uwch. Bydd yr AYAU hefyd yn prosesu'r wybodaeth yn y gronfa ddata ar ran cyrff eraill. Rhaid i bob defnydd a wneir o Gofnod Staff yr AYAU gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998.
Elusen gofrestredig yw'r AYAU ac mae'n gweithredu ar sail nid-er-elw. Gall godi ar gyrff eraill y mae'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer neu'n rhoi data iddynt er mwyn talu am ei chostau.
Data personol sensitif
Os rhoddwch wybodaeth i ni am eich statws anabledd, ethnigedd, gogwydd rhywiol, ailbeniad rhywedd, beichiogrwydd/mamolaeth neu grefydd bydd yn cael ei chynnwys yng Nghofnod Staff yr AYAU i'n helpu i fonitro cyfle cyfartal a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon yn unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb. Ni ddefnyddir y meysydd hyn gan yr AYAU mewn unrhyw ffordd a allai gael ei defnyddio i'ch adnabod chi.
Dibenion casglu data ar gyfer y Cofnod Staff AYAU
Defnyddir Cofnod Staff yr AYAU at bedwar diben cyffredinol:
Diben 1 - Swyddogaethau cyhoeddus
Defnyddir Cofnod Staff yr AYAU gan rai cyrff i'w helpu i gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas ag addysg yn y DU. Y cyrff hyn yw rheolyddion data yn gyffredin Cofnod Staff yr AYAU o dan delerau'r Ddeddf Gwarchod Data. Maent hwy'n cynnwys:
ac unrhyw gyrff sy'n eu holynu. Gall Cofnod Staff yr AYAU hefyd gael ei ddefnyddio gan rai cyrff i'w helpu i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus nad ydynt yn gysylltiedig ag addysg, er enghraifft, monitro gwariant cyhoeddus gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.
Diben 2 - Cyhoeddiadau'r AYAU
Defnyddir Cofnod Staff yr AYAU gan yr AYAU i gynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol. Mae'r rhain yn cynnwys rhai cyhoeddiadau Ystadegau Cenedlaethol a gwasanaethau gwybodaeth rheoli ar-lein. Bydd yr AYAU yn cymryd camau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o'r data a brosesir ganddi at Ddiben 2.
Diben 3 - Cyfle cyfartal, ymchwil, newyddiaduraeth a phrosesu arall lle y mae gan y cyhoedd ddiddordeb
Gall yr AYAU a'r rheolyddion data eraill sydd wedi'u rhestru o dan Ddiben 1 gyflenwi data i drydydd partïon hefyd lle y mae gwneud hynny o ddiddordeb cyfreithlon i'r cyhoedd. Rhai enghreifftiau o ddefnyddio data at y diben hwn yw:
Mae defnyddwyr y gellir cyflenwi data iddynt at Ddiben 3 yn cynnwys:
Mae data a gyflenwir gan yr AYAU i drydydd partïon yn cael eu darparu o dan gontractau sy'n mynnu na fydd unigolion yn cael eu hadnabod o'r data a gyflenwir. Gellir cael copi o gytundeb safonol yr AYAU ar gyfer cyflenwi data yn http://www.hesa.ac.uk/dox/informationprovision/IP5_Terms_and_conditions_V1_7.pdf
Diben 4 - Staff academaidd clinigol a staff iechyd proffesiynol yn unig
Os ydych chi'n gweithio mewn swydd neu adran glinigol neu iechyd-gysylltiedig gall y cyrff canlynol ddefnyddio eich Cofnod Staff AYAU at ddibenion ychwanegol:
Prifysgolion y DU drwy weithgareddau ei Gyngor Ysgolion Meddygol a'i Gyngor Ysgolion Deintyddol - Monitro tueddiadau mewn staffio academaidd clinigol fel sylfaen ar gyfer partneriaeth rhwng y GIG a'r prifysgolion. Hybu, cynnal a gwella addysg, ymchwil ac arfer clinigol o safon uchel yn y DU. Cyhoeddi canlyniadau gwaith ymchwil i staffio academaidd clinigol ar lefel ystadegol fanwl lle y gall fod perygl o adnabod unigolion drwy gyfuniadau o nodweddion.
Hysbysiad Casglu Staff yr AYAU
Caiff Hysbysiad Casglu Staff yr AYAU ei adolygu'n rheolaidd. Gellir dod o hyd i'r fersiwn diweddaraf yn http://www.hesa.ac.uk/content/view/150/183/. Gall mân ddiweddariadau i'r Hysbysiad Casglu Staff (gan gynnwys newidiadau i enwau cyrff ac egluro dibenion a nodwyd ynghynt) gael eu gwneud ar unrhyw adeg. Ni fydd diweddariadau mawr (megis diben newydd) yn cael eu gwneud yn amlach nag unwaith y flwyddyn.
Eich Hawliau
O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gennych hawl i weld y data a gedwir amdanoch gan yr AYAU. Rhaid i chi dalu ffi fach am hyn. I gael gwybodaeth bellach am Gofnod Staff yr AYAU, ewch i www.hesa.ac.uk/dataprot neu e-bostiwch data.protection@hesa.ac.uk.
Byddwn yn anfon gwybodaeth o'r ffurflen hon i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU/HESA). Bydd y data hyn yn cael eu cysylltu â gwybodaeth arall a gedwir amdanoch chi fel myfyriwr, gan gynnwys gwybodaeth gyffelyb a roddasoch wrth gofrestru, a manylion y cymwysterau a enillwyd gennych. Ni fydd eich cofnod AYAU yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd sy'n effeithio arnoch yn bersonol.
Defnyddir y Cofnod CMGAU AYAU at dri diben cyffredinol:
Diben 1. Swyddogaethau statudol
Defnyddir y cofnod AYAU gan y cyrff isod, neu asiantiaid sy'n gweithredu ar eu rhan, i gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas ag addysg yn y DU.
Gall y cofnod AYAU gael ei ddefnyddio hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol i gyflawni eu swyddogaethau statudol mewn perthynas â mesur lefelau poblogaeth a monitro gwariant cyhoeddus.
Diben 2. Cyhoeddiadau'r AYAU
Defnyddir y cofnod AYAU gan yr AYAU i gynhyrchu data di-enw mewn cyhoeddiadau ystadegol blynyddol. Mae'r rhain yn cynnwys rhai cyhoeddiadau Ystadegau Cenedlaethol a gwasanaethau gwybodaeth rheoli ar-lein.
Diben 3. Ymchwil, cyfle cyfartal, newyddiaduraeth, diddordeb dilys/swyddogaeth gyhoeddus arall
Bydd yr AYAU hefyd yn cyflenwi data di-enw i drydydd partïon at y dibenion canlynol:
Caiff data di-enw at y dibenion uchod eu cyflenwi gan yr AYAU i'r mathau canlynol o ddefnyddiwr:
Bydd yr AYAU yn cymryd camau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o'r data di-enw a brosesir ganddi.
Eich hawliau
O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gennych hawl i weld y data a gedwir amdanoch gan yr AYAU. Rhaid i chi dalu ffi fach am hyn. I gael gwybodaeth bellach am y cofnod AYAU, ewch i www.hesa.ac.uk/dataprot neu e-bostiwch data.protection@hesa.ac.uk