Byddwn yn anfon peth o'r wybodaeth a gadwn amdanoch i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU/HESA). Y wybodaeth hon yw eich cofnod AYAU. Nid yw'n cynnwys eich manylion cysylltu.
Gall eich manylion cysylltu gael eu trosglwyddo i gontractwyr sy'n cynnal yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol ac arolygon o gyllid myfyrwyr, ar ran y cyrff addysgol a restrir isod. Bydd y cyrff hyn a'u contractwyr yn defnyddio eich manylion at y diben hwn yn unig, ac yn eu dileu wedyn.
Oddeutu chwe mis ar ôl i chi raddio, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn i chi lenwi holiadur yr AYAU, ‘Cyrchfannau Myfyrwyr sy'n Gadael Addysg Uwch'. Ni fyddwn yn rhoi eich manylion cysylltu i'r AYAU. Mae'n bosibl y cewch eich cynnwys mewn sampl o raddedigion y gofynnir iddynt gymryd rhan mewn arolwg pellach ychydig o flynyddoedd ar ôl iddynt raddio. Os felly, byddwn yn trosglwyddo eich manylion cysylltu i'r corff sydd wedi cael y contract i wneud yr arolwg hwnnw. Bydd y corff hwn yn defnyddio eich manylion at y diben hwn yn unig, ac yn eu dileu wedyn.
Os nad ydych am gymryd rhan yn yr arolygon hyn, byddwch cystal â rhoi gwybod i ni.
Defnyddir y cofnod AYAU at dri diben cyffredinol:
1. Swyddogaethau statudol
Defnyddir y cofnod AYAU gan y cyrff isod, neu asiantiaid sy'n gweithredu ar eu rhan, i gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas ag addysg yn y DU.
Gall y cofnod AYAU gael ei ddefnyddio hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol i gyflawni eu swyddogaethau statudol mewn perthynas â mesur lefelau poblogaeth a monitro gwariant cyhoeddus.
Cymwysterau Cywerth ac Is - Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n cofrestru mewn sefydliadau yn Lloegr yn unig: Gallwn ni a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr gymharu eich data â chofnodion addysgol o flynyddoedd blaenorol er mwyn helpu i bennu lefelau eich cymwysterau presennol. Gall hyn yn ei dro effeithio ar y ffioedd y mae gofyn i chi eu talu.
Ni fydd eich cofnod AYAU yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall sy'n effeithio arnoch yn bersonol.
2. Cyhoeddiadau'r AYAU
Defnyddir y cofnod AYAU gan yr AYAU i gynhyrchu data dienw mewn cyhoeddiadau ystadegol blynyddol. Mae'r rhain yn cynnwys rhai cyhoeddiadau Ystadegau Cenedlaethol a gwasanaethau gwybodaeth rheoli ar-lein.
3. Ymchwil, cyfle cyfartal, newyddiaduraeth, diddordeb dilys/swyddogaeth gyhoeddus arall
Bydd yr AYAU hefyd yn cyflenwi data dienw i drydydd partïon at y dibenion canlynol:
Caiff data di-enw at y dibenion uchod eu cyflenwi gan yr AYAU i'r mathau canlynol o ddefnyddiwr:
Bydd yr AYAU yn cymryd camau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o'r data di-enw a brosesir ganddi.
Eich hawliau
O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gennych hawl i weld y data a gedwir amdanoch gan yr AYAU. Rhaid i chi dalu ffi fach am hyn. I gael gwybodaeth bellach am y cofnod AYAU, ewch i www.hesa.ac.uk/dataprot neu e-bostiwch data.protection@hesa.ac.uk
Ar gyfer myfyrwyr ar gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon mewn sefydliadau yn Lloegr yn unig:
Os ydych ar gwrs HCA mewn sefydliad yn Lloegr bydd yr AYAU yn trosglwyddo rhan neu'r cyfan o'ch cofnod AYAU i Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr hefyd.
Mae Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr yn rheolydd data o dan delerau Deddf Gwarchod Data 1998. Bydd yn prosesu eich data personol er mwyn cyflawni ei gylch gwaith a'i rwymedigaethau statudol, gan gynnwys gweinyddu cofrestru dros dro. Ac eithrio lle y mae rhwymedigaeth gyfreithiol, ni fydd y Cyngor yn rhannu eich data ag unrhyw drydydd parti heblaw am y rheiny sy'n cyflawni gwasanaeth ar ei ran ac o dan ei gyfarwyddiadau penodol.
Bob blwyddyn byddwn yn anfon peth o'r wybodaeth a gadwn amdanoch i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU/HESA). Y wybodaeth hon yw eich Cofnod Staff AYAU. Nid yw'n cynnwys eich enw na'ch manylion cysylltu. Ni fydd eich cofnod AYAU yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd sy'n effeithio arnoch yn bersonol.
Defnyddir y Cofnod Staff AYAU at dri diben cyffredinol:
1. Swyddogaethau statudol
Defnyddir y cofnod AYAU gan y cyrff isod, neu asiantiaid sy'n gweithredu ar eu rhan, i gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas ag addysg yn y DU.
Gall y cofnod AYAU gael ei ddefnyddio hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol i gyflawni eu swyddogaethau statudol mewn perthynas â mesur lefelau poblogaeth a monitro gwariant cyhoeddus.
2. Cyhoeddiadau'r AYAU
Defnyddir y cofnod AYAU gan yr AYAU i gynhyrchu data di-enw mewn cyhoeddiadau ystadegol blynyddol. Mae'r rhain yn cynnwys rhai cyhoeddiadau Ystadegau Cenedlaethol a gwasanaethau gwybodaeth rheoli ar-lein.
3. Ymchwil, cyfle cyfartal, newyddiaduraeth, diddordeb dilys/swyddogaeth gyhoeddus arall
Bydd yr AYAU hefyd yn cyflenwi data di-enw i drydydd partïon at y dibenion canlynol:
Caiff data di-enw at y dibenion uchod eu cyflenwi gan yr AYAU i'r mathau canlynol o ddefnyddiwr:
Bydd yr AYAU yn cymryd camau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o'r data di-enw a brosesir ganddi.
O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gennych hawl i weld y data a gedwir amdanoch gan yr AYAU. Rhaid i chi dalu ffi fach am hyn. Gan nad yw'r wybodaeth y mae'r AYAU yn ei chadw amdanoch yn cynnwys eich enw, a chan ei bod yn gopi o'r wybodaeth sydd gennym ni, dylech gysylltu â ni os ydych am weld y wybodaeth. I gael gwybodaeth bellach am y Cofnod Staff AYAU, ewch i www.hesa.ac.uk/dataprot neu e-bostiwch data.protection@hesa.ac.uk
Byddwn yn anfon gwybodaeth o'r ffurflen hon i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU/HESA). Bydd y data hyn yn cael eu cysylltu â gwybodaeth arall a gedwir amdanoch chi fel myfyriwr, gan gynnwys gwybodaeth gyffelyb a roddasoch wrth gofrestru, a manylion y cymwysterau a enillwyd gennych. Ni fydd eich cofnod AYAU yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd sy'n effeithio arnoch yn bersonol.
Defnyddir y Cofnod CMGAU AYAU at dri diben cyffredinol: