Skip to main content

Collection notice (DLHE C14018)

Fair processing notice for the Destinations of Leavers from HE (DLHE) survey for leavers from the 2014/15 academic year.

Cymraeg

Note: Reference in this notice to "we" and "us" refers to the higher education provider which you attended.

Destinations of Leavers from HE (DLHE) Collection Notice

We will send information from this survey to the Higher Education Statistics Agency. HESA is the official source of data about UK universities and higher education colleges. This survey information will be linked to other information held about you as a student, including information you gave when you enrolled, and details of the qualification you gained. Together this forms your HESA Record. More information about how the HESA Record is used can be found in the Student Collection Notice here.

Your DLHE survey responses will not be used to make decisions about you.

HESA collects, and is responsible for, the database in which your HESA Record is stored. HESA is a registered charity and operates on a not-for-profit basis. HESA uses the HESA Record, including the DLHE survey responses, itself for its own purposes. HESA also shares information from the HESA Record with third parties. It may charge other organisations to whom it provides services and data. HESA's use of the HESA Record may include linking information from it to other data, as described further below. All uses of the HESA Record must comply with the Data Protection Act 1998.

The HESA Record including DLHE survey responses are used for three broad purposes:

Purpose 1 - Public functions

Information from the HESA Record is used by some organisations to help carry out public functions connected with education in the UK. These organisations are data controllers in common under the terms of the Data Protection Act (this link explains what this means). Such organisations may include:

  • Department for Business, Innovation and Skills
  • Welsh Government
  • Scottish Government
  • Department for Employment and Learning, Northern Ireland
  • Higher Education Funding Council for England
  • Higher Education Funding Council for Wales
  • Scottish Further and Higher Education Funding Council
  • Department for Education
  • Research Councils
  • Education Funding Agency
  • National College for Teaching and Leadership
  • National Health Service
  • General Medical Council
  • Office For Fair Access
  • Quality Assurance Agency for Higher Education

and any successor bodies.

The HESA Record may also be used by other organisations who are also data controllers in common to help carry out public functions that are not connected with education. Such users include the Office for National Statistics and the National Audit Office who may use the information to fulfil their statutory functions of measuring population levels and monitoring public expenditure.

The use of data by organisations under this Purpose 1 may include linking information in the HESA Record to other data as described further below.

Purpose 2 - HESA publications

The HESA Record is used by HESA to produce and publish information and statistics. This includes some National Statistics publications and online business intelligence and research services. HESA will take precautions to ensure that individuals are not identified from any information which is processed for Purpose 2.

Purpose 3 - Equal opportunity, research, journalism and other processing in which there is a legitimate interest

HESA and the other data controllers in common (see Purpose 1) may also supply information to third parties where there is a legitimate interest in doing so. Examples of use for this purpose include:

  • Equal opportunities monitoring
  • Research - This may be academic research, commercial research or other statistical research where this is in the public interest
  • Journalism - Where the relevant publication would be in the public interest e.g. league tables
  • Provision of information to students and prospective students

Users to whom information may be supplied for Purpose 3 include:

  • Higher education sector bodies
  • Higher education providers
  • Academic researchers and students
  • Commercial organisations (e.g. recruitment firms, housing providers, graduate employers)
  • Unions
  • Non-governmental organisations and charities
  • Local, regional and national government bodies
  • Journalists

Information supplied by HESA to third parties within Purpose 3 is supplied under contracts which require that individuals shall not be identified from the supplied information. A copy of HESA's current agreement for the supply of information is available here. Information from the HESA Record, may be linked to school and/or further education college information and supplied to researchers. A copy of the Agreement for the supply of linked data about pupils from schools in England is available here.

Linking of information in the HESA Record

As indicated above, where HESA and organisations covered by Purpose 1 above use information from the HESA Record this use may include linking the HESA Record information to other information for example:

  • UCAS data
  • National Student Survey data
  • School and Further Education data
  • Student Loans Company data
  • Qualification Awarding Bodies data
  • Tax, Benefits, and Employment data.

About the HESA DLHE Collection Notice

The HESA DLHE Collection Notice is regularly reviewed. The most up to date version can be found here. Minor updates to the DLHE Collection Notice (including organisation name changes and clarification of previously specified purposes) may be made at any time. Major updates (such as a new purpose) will be made no more than once per year.

Further contact

You may be contacted as part of an audit to check that we have undertaken this survey properly.

You may be included in further longitudinal surveys of leavers from higher education. If so, we will pass your contact details to the organisation that has been contracted to carry out each survey. Your details will only be used by that organisation for the survey and will then be deleted by them. If you do not want to take part in any of these surveys, please let us know.

Your rights

Under the Data Protection Act 1998 you have rights of access to the information HESA holds about you. You will have to pay a small fee for this. For further information about data protection and the HESA Record please see here or email [email protected]

Higher Education Statistics Agency Ltd is a company limited by guarantee, registered in England at the above address. Registered No. 2766993.

Registered Charity No. 1039709. Certified to ISO 27001. The members are Universities UK and GuildHE.


Sylwer: Mae cyfeiriadau at “ni” yn yr hysbysiad hwn yn cyfeirio at y darparwr addysg uwch lle y buoch yn astudio.

Hysbysiad Casglu: Cyrchfannau Myfyrwyr sy’n Gadael AU (CMGAU)

Byddwn yn anfon gwybodaeth o’r arolwg hwn i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU/HESA). Yr AYAU yw’r ffynhonnell swyddogol ar gyfer data am brifysgolion a cholegau addysg uwch y DU www.hesa.ac.uk/. Bydd y wybodaeth o’r arolwg yn cael ei chysylltu â gwybodaeth arall a gedwir amdanoch chi fel myfyriwr, gan gynnwys gwybodaeth a roddasoch wrth gofrestru, a manylion y cymhwyster a enillwyd gennych. Yr holl wybodaeth hon yw eich Cofnod AYAU. Rhoddir mwy o wybodaeth am y modd y defnyddir Cofnod yr AYAU yn yr Hysbysiad Casglu Myfyrwyr yn: www.hesa.ac.uk/fpn.

Ni fydd eich ymatebion i’r arolwg CMGAU yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi.

Bydd yr AYAU yn casglu data ar gyfer y gronfa ddata lle y caiff eich Cofnod AYAU ei storio. Mae hefyd yn gyfrifol am y gronfa ddata hon. Elusen gofrestredig yw’r AYAU ac mae’n gweithredu ar sail nid-er-elw. Bydd yn defnyddio Cofnod yr AYAU, gan gynnwys yr ymatebion i’r arolwg CMGAU, yn uniongyrchol at ei ddibenion ei hun. Bydd hefyd yn rhannu gwybodaeth o Gofnod yr AYAU â thrydydd partïon. Gall godi tâl ar gyrff eraill y mae’n darparu gwasanaethau a data ar eu cyfer. Gall defnydd yr AYAU o Gofnod yr AYAU gynnwys cysylltu gwybodaeth ynddo â data eraill, fel y disgrifir ymhellach isod. Rhaid i bob defnydd a wneir o Gofnod yr AYAU gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/29/contents.

Defnyddir Cofnod yr AYAU, gan gynnwys ymatebion i’r arolwg CMGAU, at dri diben cyffredinol:

Diben 1 - Swyddogaethau cyhoeddus

Defnyddir gwybodaeth o Gofnod yr AYAU gan rai cyrff i’w helpu i gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus mewn perthynas ag addysg yn y DU. Y cyrff hyn yw rheolyddion data yn gyffredin o dan delerau’r Ddeddf Gwarchod Data (mae’r cyswllt canlynol yn egluro ystyr hyn ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/key-definitions/). Gall y cyrff hyn gynnwys:

  • Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau
  • Llywodraeth Cymru
  • Llywodraeth yr Alban
  • Adran Cyflogaeth a Dysgu Gogledd Iwerddon
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr
  • Cyngor Cyllido Addysg Bellach ac Uwch yr Alban
  • Yr Adran Addysg
  • Y Cynghorau Ymchwil
  • Yr Asiantaeth Cyllido Addysg
  • Y Coleg Cenedlaethol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
  • Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • Y Swyddfa Mynediad Teg
  • Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch

ac unrhyw gyrff sy’n eu holynu.

Gall Cofnod yr AYAU gael ei ddefnyddio gan gyrff eraill yn ogystal, sydd hefyd yn rheolyddion data yn gyffredin, i’w helpu i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus nad ydynt yn gysylltiedig ag addysg. Mae’r defnyddwyr hyn yn cynnwys y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a all ddefnyddio’r wybodaeth i gyflawni eu swyddogaethau statudol megis mesur lefelau o boblogaeth a monitro gwariant cyhoeddus.

Gall y defnydd y bydd cyrff yn ei wneud o ddata o dan Ddiben 1 gynnwys cysylltu gwybodaeth yng Nghofnod yr AYAU â data eraill fel y disgrifir ymhellach isod.

Diben 2 - Cyhoeddiadau’r AYAU

Bydd yr AYAU yn defnyddio Cofnod yr AYAU i gynhyrchu a chyhoeddi gwybodaeth ac ystadegau. Mae hyn yn cynnwys rhai cyhoeddiadau Ystadegau Cenedlaethol (www.statisticsauthority.gov.uk/national-statistician/types-of-official-statistics) a gwasanaethau gwybodaeth busnes ac ymchwil ar-lein. Bydd yr AYAU yn cymryd camau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o unrhyw wybodaeth sy’n cael ei phrosesu at Ddiben 2.

Diben 3 - Cyfle cyfartal, ymchwil, newyddiaduraeth a phrosesu arall lle y mae diddordeb cyfreithlon

Gall yr AYAU a’r rheolyddion data yn gyffredin eraill (gweler Diben 1) gyflenwi gwybodaeth i drydydd partïon hefyd lle y mae diddordeb cyfreithlon mewn gwneud hynny. Rhai enghreifftiau o ddefnyddio data at y diben hwn yw:

  • Monitro cyfle cyfartal
  • Ymchwil - Gall hwn fod yn ymchwil academaidd, ymchwil masnachol neu ymchwil ystadegol arall lle y mae hyn er lles y cyhoedd
  • Newyddiaduraeth - Lle y byddai’r cyhoeddiad dan sylw er lles y cyhoedd e.e. tablau cynghrair
  • Darparu gwybodaeth at ddefnydd myfyrwyr a darpar fyfyrwyr

Mae defnyddwyr y gellir cyflenwi gwybodaeth iddynt at Ddiben 3 yn cynnwys:

  • Cyrff yn y sector addysg uwch
  • Darparwyr addysg uwch
  • Ymchwilwyr academaidd a myfyrwyr
  • Cyrff masnachol (e.e. cwmnïau recriwtio, darparwyr tai, cyflogwyr graddedigion)
  • Undebau
  • Cyrff anllywodraethol ac elusennau
  • Cyrff llywodraethol lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Newyddiadurwyr

Mae gwybodaeth a gyflenwir gan yr AYAU i drydydd partïon o dan Ddiben 3 yn cael ei darparu o dan gontractau sy’n mynnu na fydd unigolion yn cael eu hadnabod o’r wybodaeth a gyflenwir. Gellir cael copi o gytundeb presennol yr AYAU ar gyfer cyflenwi gwybodaeth yn www.hesa.ac.uk/bds-details#e. Gall gwybodaeth o Gofnod yr AYAU gael ei chysylltu â gwybodaeth am ysgolion a/neu golegau addysg bellach a’i chyflenwi i ymchwilwyr. Gellir gweld copi o’r Cytundeb ar gyfer cyflenwi data cysylltiedig am ddisgyblion o ysgolion yn Lloegr yn www.gov.uk/government/collections/national-pupil-database.

Cysylltu’r wybodaeth sydd yng Nghofnod yr AYAU

Fel y nodwyd uchod, lle y bydd yr AYAU a’r cyrff a enwir o dan Ddiben 1 uchod yn defnyddio gwybodaeth o Gofnod yr AYAU, gall y defnydd hwn gynnwys cysylltu gwybodaeth o Gofnod yr AYAU â gwybodaeth arall, er enghraifft:

  • Data UCAS
  • Data yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
  • Data am Ysgolion ac Addysg Bellach
  • Data y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
  • Data y Cyrff Dyfarnu Cymwysterau
  • Data am Dreth, Budd-daliadau, a Chyflogaeth

Ynghylch Hysbysiad Casglu CMGAU yr AYAU

Caiff Hysbysiad Casglu CMGAU yr AYAU ei adolygu’n rheolaidd. Gellir dod o hyd i’r fersiwn diweddaraf yn www.hesa.ac.uk/fpn. Gall mân ddiweddariadau i’r Hysbysiad Casglu CMGAU (gan gynnwys newidiadau i enwau cyrff ac egluro dibenion a nodwyd ynghynt) gael eu gwneud ar unrhyw adeg. Ni fydd diweddariadau mawr (megis diben newydd) yn cael eu gwneud yn amlach nag unwaith y flwyddyn.

Cysylltu pellach

Mae’n bosibl y cysylltir â chi fel rhan o archwiliad i gadarnhau ein bod ni wedi ymgymryd â’r arolwg hwn yn briodol.

Mae’n bosibl y cewch eich cynnwys mewn arolygon arhydol pellach o fyfyrwyr sy’n gadael addysg uwch. Os felly, byddwn yn trosglwyddo eich manylion cysylltu i’r corff sydd wedi cael y contract i wneud pob arolwg. Bydd y corff hwnnw yn defnyddio eich manylion at ddiben yr arolwg yn unig, ac yn eu dileu wedyn. Os nad ydych am gymryd rhan yn yr arolygon hyn, byddwch cystal â rhoi gwybod i ni.

Eich hawliau

O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gennych hawl i weld y wybodaeth a gedwir amdanoch gan yr AYAU. Rhaid i chi dalu ffi fach am hyn. I gael gwybodaeth bellach am warchod data a Chofnod yr AYAU, ewch i www.hesa.ac.uk/dataprot neu e-bostiwch [email protected].

Mae'r Higher Education Statistics Agency Limited yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi'i gofrestru yn Lloegr yn y cyfeiriad uchod. Rhif Cofrestredig 2766993. Rhif Elusen Gofrestredig 1039709. Wedi'i ardystio i ISO 27001. Yr aelodau yw Prifysgolion y DU a GuildHE.